Vaughan Gething AC
 Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
 
 Jane Hutt AS
 Y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip

     

    


1 Gorffennaf 2020

Effaith y coronafeirws ar gydraddoldeb a hawliau dynol

Annwyl Weinidog a Dirprwy Weinidog

Fel rhan o’n gwaith craffu ar effaith Covid-19 ar gydraddoldeb a hawliau dynol, clywsom dystiolaeth yn ddiweddar gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC), Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Age Cymru, y Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig (EYST) a Race Council Cymru. Er ein bod yn bwriadu cyhoeddi’r dystiolaeth a’r argymhellion yn fuan mewn un adroddiad, roedd nifer o faterion brys nad oeddem yn teimlo y dylent aros nes cyhoeddi’r adroddiad hwnnw.

Rydym yn nodi bod pryderon wedi’u mynegi ynglŷn â sicrhau bod lleisiau grwpiau fel pobl hŷn, pobl anabl a chymunedau BAME yn cael eu clywed wrth ymateb i’r pandemig. Dywedodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wrthym bod hyn yn bwysig er mwyn sicrhau bod polisïau a gweithredoedd yn ymateb i’w hanghenion ac yn lleddfu’r anghydraddoldebau sy’n wynebu pobl Fe wnaethant dynnu sylw hefyd at yr angen i sicrhau bod ymgysylltu’n golygu ymgysylltu’n weithredol â’ch cymunedau lleol. Mae angen i ymgysylltu hefyd ystyried y rhwystrau penodol y gall rhai pobl eu hwynebu, yn enwedig rhwystrau rhag ymgysylltu’n ddigidol. Rydym yn rhagweld y byddwn yn dychwelyd at y mater hwn mewn mwy o fanylder yn ein gwaith pellach ar y pandemig.

Gan fod y materion hyn wrth eu natur yn croesdorri eich portffolios rydym wedi ysgrifennu un llythyr.

Asesiadau o effaith

Fel y gwyddoch, buom ni, ynghyd â’r Pwyllgor Cyllid a’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn galw am ddull mwy systematig o gyhoeddi asesiadau o effaith fel y maent yn ymwneud â’r broses o bennu cyllidebau.[1] Rydym yn parhau i fod yn siomedig nad yw hyn wedi digwydd eto.

Dywedodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wrthym eu bod yn “poeni” am ddiffyg tryloywder o ran sut roedd Llywodraeth Cymru yn ystyried cydraddoldeb a hawliau dynol wrth ymateb i’r pandemig, ac y gallai diffyg Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb (EIA) cyhoeddedig dorri cyfrifoldebau cyfreithiol o ran dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus a’r Ddeddf Cydraddoldeb, o bosibl.[2] Er eu bod yn deall bod yn rhaid gwneud penderfyniadau yn gyflym ar ddechrau’r pandemig, roeddent yn teimlo, wrth i’r ffocws newid i ganolbwyntio ar adfer, fod cyfle i ymgynghori a chraffu rhagor, gan gynnwys cyhoeddi Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb (EIA) ac Asesiadau o’r Effaith ar Hawliau Plant (CRIA)=.[3]

Er eu bod yn croesawu bod cydraddoldeb yn biler allweddol yn y cynllun adfer, roeddent yn credu y byddai cyhoeddi Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb yn helpu i roi sicrwydd a chyfle i graffu’n fwy gwybodus ar benderfyniadau Llywodraeth Cymru. Yn benodol, byddent yn croesawu cyhoeddi’r Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb ar y penderfyniadau ynghylch profi am Covid-19 mewn cartrefi gofal.

Yn ystod ein sesiwn dystiolaeth gyda’r Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, clywsom ei bod hi’n sicrhau bod craffu trwyadl ar “bob polisi, nid yn unig polisïau sy’n ymwneud â fy mhortffolio, ond ar draws adrannau Llywodraeth Cymru, o ran effeithiau ar gydraddoldeb.”

Nododd hefyd fod yr asesiad o effaith integredig strategol wedi’i ‘gryfhau’, a bod yn rhaid ystyried ‘aide-mémoire diwygiedig’ ar yr offeryn yn erbyn pob dogfen bolisi a chyngor gweinidogol.[4]

Rydym yn cefnogi’r galwadau gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a byddem yn gofyn bod yr holl Asesiadau o Effaith ar Gydraddoldeb ar benderfyniadau allweddol mewn ymateb i’r pandemig yn cael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.

Amlygodd y Comisiwn hefyd fod hawliau dynol wedi’u hymgorffori wrth galon y cynllun adfer yn yr Alban a’u bod am i "hawliau dynol gael eu hymgorffori’n llawer mwy yn fframwaith adfer Cymru."[5] Hoffem pe bai Llywodraeth Cymru yn amlinellu sut y bydd yn sicrhau bod hawliau dynol wrth wraidd y cynllun adfer, o ystyried ei hymrwymiadau hirsefydlog i gydraddoldeb a hawliau dynol.

Llacio gofynion deddfwriaethol

Clywsom bryderon gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, y Comisiynydd Pobl Hŷn ac Age Cymru ynghylch “hawddfreintiad”[6] rhai darpariaethau yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Dywedodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, er mai ychydig o awdurdodau lleol sydd wedi rhoi terfyn ar wasanaethau yn ffurfiol, mae tystiolaeth storïol bod llai o wasanaeth neu ddim gwasanaethau yn gyffredinol.[7] Roedd Age Cymru yn cwestiynu a oedd yr hawddfreintiau yn “gymesur”. Nodwn na chafodd y gofynion o ran darpariaethau ar gyfer plant a phobl ifanc eu lleihau yn y fath fodd.

Pa asesiad a wnaed o effaith lleihau o’r fath ar bobl hŷn a grwpiau eraill; a phryd y bydd y gofynion yn cael eu hadfer?

Effaith ar grwpiau du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig      

Clywsom dystiolaeth gref iawn gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, y Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig (EYST) a Race Council Cymru am effaith anghymesur pob agwedd ar y pandemig ar gymunedau pobl ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME), o ran y risg uwch o haint, ynghyd â’r effaith economaidd a chymdeithasol. Rydym yn croesawu cam gweithredu Llywodraeth Cymru i gynnull grŵp cynghori yn gyflym, sydd wedi arwain at gyhoeddi’r offeryn asesu risg dau gam, sydd i’w ddefnyddio yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a’r sector gofal cymdeithasol, ac adroddiad yr is-grŵp economaidd-gymdeithasol. Byddem yn adleisio’r galwadau a wnaed gan y Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig y dylai Llywodraeth Cymru annog a chefnogi’r defnydd o’r offeryn asesu risg mewn sectorau ar wahân i’r sector iechyd a’r sector gofal cymdeithasol.

Dywedodd y Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig wrthym, a nodwn fod hyn cyn cyhoeddi adroddiad y grŵp economaidd-gymdeithasol, eu bod yn pryderu nad oedd “pob un o’r cysylltiadau wedi’u gwneud yn effeithiol iawn hyd yma ar draws y Llywodraeth.”[8]

Galwodd Race Council Cymru am i argymhellion y pwyllgor cynghori “gael eu cynnwys yn y cynllun adfer.”[9] Roedd y ddau sefydliad yn glir bod angen gweithredu ar unwaith. Galwodd y Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig am “gamau cyflym”, a dywedodd fod angen i Lywodraeth Cymru nodi rhai camau cyflym ymlaen o ran gweithredoedd a all wneud rhywfaint o wahaniaeth, o leiaf, yn y tymor byr.[10] Pwysleisiodd Race Council Cymru hefyd bwysigrwydd “yr ymatebion a’r camau uniongyrchol y mae angen eu cymryd i liniaru rhai o’r heriau hyn”.[11]

Nawr bod adroddiad yr is-grŵp economaidd-gymdeithasol wedi’i gyhoeddi, a oes modd i chi gadarnhau a fydd y camau a restrir yn yr adroddiad yn cael eu derbyn a’u cynnwys fel rhan o’r cynllun adfer ai peidio? Pa gamau penodol y byddwch chi’n eu cymryd i sicrhau bod y cynllun adfer yn ystyried effeithiau anghyfartal y pandemig?

Fel y nodwyd uchod, rydym yn bwriadu cyhoeddi adroddiad cynhwysfawr ar y dystiolaeth a gawsom, a bydd ynddo argymhellion ar gyfer gweithredu gan Lywodraeth Cymru, ond edrychaf ymlaen at gael eich ymateb i’r materion mwy brys hyn yn ymwneud â’r dystiolaeth a glywyd gennym ar 16 Mehefin.

 

Yn gywir

John Griffiths AS

Y Cadeirydd

 

 

Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu Saesneg.

We welcome correspondence in Welsh or English.

 



[1] Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymundedau; Y Pwyllgor Cyllid; Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg; Asesu effaith penderfyniadau cyllidebol, Mawrth 2019

[2] Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, 16 Mehefin 2020, Cofnod y Trafodion [19]

[3] Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, 16 Mehefin 2020, Cofnod y Trafodion [21]

[4] Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, 14 Mai 2020, Cofnod y Trafodion [8]

[5] Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, 16 Mehefin 2020, Cofnod y Trafodion [69]

[6] Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, 16 Mehefin 2020, Cofnod y Trafodion [142]

[7] Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, 16 Mehefin 2020, Cofnod y Trafodion [9]

[8] Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, 16 Mehefin 2020, Cofnod y Trafodion [231]

[9] Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, 16 Mehefin 2020, Cofnod y Trafodion [252]

[10] Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, 16 Mehefin 2020, Cofnod y Trafodion [234]

[11] Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, 16 Mehefin 2020, Cofnod y Trafodion [236]